Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CLOD AM Y GWAED.

Y gwaed, y gwaed a lifodd,
Ar groesbren un prydnawn;
Haeddianau hwnw roddodd
I'r gyfraith daliad llawn:
Y gwaed, y gwaed a olcha
Bechadur du yn wyn;
Dadseinwn Haleliwia
Am waed Calfaria fryn.

Y gwaed, y gwaed a egyr,
Holl ddorau'r nefoedd lon;
Y gwaed, y gwaed rydd gysur
Dan holl gurfeydd y fron:
Ar fryniau anfarwoldeb,
Pan yno sang fy nhraed,
Fy nghan i dragwyddoldeb
Gaiff fod y gwaed, y gwaed!


PENOD XXV.

Parlwr Rose Cottage.

Mae parlyrau yn dweyd llawer am bobl. Maent yn dweyd am eu chwaeth at y dillyn a'r prydferth, ac am eu hamgylchiadau bydol. Y gwrthddrychau arwyddol ynddynt, fel rheol, fydd darluniau heirdd a dodrefn costfawr. Adnabyddir yn gyffredin oddiwrth olygfa y parlwr beth fydd diwylliaeth a safle dymorol y teulu.

Yn Ionawr, 1886, cartrefais am wythnos yn Rose Cottage, Aberdar, cartref cysurus y Parch. Thomas Price, Ph. D. Y mae parlwr yr annedd-dy hwn yn llefaru