y meistriaid yn weision iddo ef yn aml. Ysbryd Dr. Price oedd prif ysbryd y dref a'r cymydogaethau. Pan y byddai anghydfodau mewn byd neu eglwys, ceid ef yn brif dangnefeddwr. A pha mor nerthol bynag y gwrthwynebiadau, dygai ef farn i fuddugoliaeth bron yn ddieithriad. Rhyw Vesuvius tanllyd o ddyn ydoedd; angerdd gwres yr hwn a deimlai pawb, yn mhell ac yn agos.
O'r diwedd effeithiodd y fath fywyd gweithgar ac ymdrechiadol yn fawr arno, yn gorphorol a meddyliol, fel erbyn iddo fod yn driugain oed, cafodd ei hun yn wr methiedig, er mor gryf a bywydus ydoedd, yn mhob ystyr. Mae ei oedran yn awr tua thriugain a saith. Pan oeddwn i yno yr oedd yn parhau fel gweinidog Calfaria, ond wedi hyny y mae llesgedd wedi gafaelyd yn gryfach ynddo.
Ar ddydd Calan, Ionawr 1, 1886, cynaliwyd cyfarfod poblogaidd yn Calfaria, er dathlu y ddeugeinfed flwyddyn o dymor ei weinidogaeth yn y lle.
Cyhoeddasai Dr. Price bamphled yn cynwys hanes yr eglwys, a'i gysylltiad ef a hi yn ystod y tymor maith a nodwyd. Dywedir yn hwn iddo fedyddio 1,596 yn y deugain mlynedd, ac iddo ffurfio 21 o eglwysi o'r fam eglwys yn Calfaria.
Credwyf fod pob eglwys o'r un-ar-hugain a hanodd o'r fam eglwys, yn cael ei chynrychioli yn nghof-arwyddion addurniedig parlwr Rose Cottage. Yn mhlith y rhai hyn mae y Gadlys, Heol-y-felin, Hirwaen, Ynys-lwyd, Cwm-bach, Gwawr, Aberaman; Rhos, Mountain Ash. Bum ar ymweliad a phob un o'r rhai hyn.
Yn Hirwaen, y Parch. E. C. Evans yw y gweinidog.