ni yn rhydd ac yn ddirodres. Ymataliem rhag ei aflonyddu pan welem ef ar adegau neillduol yn gwefusoli ei wersi crefyddol. Wedi i'r adegau hyn fyned heibio, ail-gydiai gydag yni yn mhen llinyn yr ymddyddan. Pan y rhoddai i ni yn achlysurol ofyniadau mewn perthynas i'r genedl Gymreig, rhoddai ei hunan mewn ystum i dderbyn atebion, tybiem, fel yn y gyffesgell, wrth wrando cyffesiadau ei ddysgyblion. Ymestynai yn mlaen ei ên a gwaelod ei wyneb, gan ddweyd wrthym, "Yes, yes, I understand it."
Mr. Willy, o gerllaw Oshkosh, Wis., oedd gymeriad arall y cawsom lawer o fwynhad yn ei gyfeillach. Ystyriem ef yn ddyn pur gall, cymedrol ei olygiadau a'i eiriau yn ymddangos fel yn ofalus fod seiliau da i'r hyn a ddywedai. Ar y cyntaf nid oedd Mr. Evans yn ei hoffi, ond erbyn y diwedd efe oedd y goreu o bawb, bron, ganddo.
Ni ddylwn anghofio Mr. Lawson, yr hwn ydoedd Sais, a gweinidog gyda'r Cynulleidfaolwyr yn nghymydogaeth Manchester, ac wedi bod ar ymweliad byr â'r Talaethau, a pharthau o Canada. Cawsom ef yn gydymaith tra difyr; ond tybiem am dano nad oedd yn gywir bob amser yn ei fynegiadau am bersonau a phethDaliasom ef amryw droion yn dra phell oddiwrth yr hyn oedd wir. Na cham-ddealler ni; ni phriodolemau unrhyw egwyddor fwriadol anwireddus iddo, ond yn hytrach ryw duedd ddiniwed at fod yn rhy barod i roi sicrwydd ar y pwnc dan sylw, a'r sicrwydd hwnw yn mhell o fod yn gywir.
Dyn ifanc pur nice oedd hwnw o ddinas New York, yn myned i gael golwg ar ddyddorion Prydain Fawr.