adeiladol. Ymddengys y tai yn henaidd a phygddu. Yr orchest yma yw, nid ceisio myned i fyny, ond ymgadw rhag dadfeiliad a dinodedd. Yn y man, ar ol dod i'r lle, teimlwn fel ei gyfarch rywbeth fel y canlyn, "Wel, Dowlais bach, rhyw edrych dipyn yn llwydaidd yr ydwyt rywfodd. A oes rhywrai yn gwneyd cam a thi? Mae arnaf ofn fod. A ydyw pobl Caerdydd yna yn peidio cael mwy na'u cyfran oddiyma? Neu a yw y gwyr mawrion o'th gwmpas, a pherchenogion y gweithfeydd yma yn peidio dy ysbeilio a thraws-arglwyddiaethu arnat? Byddai yn ddrwg genyf ddeall hyny." Atebai Dowlais, feddyliwn, yn ol ymddyddanion y bobl, gan ddyweyd, "Mae llawer o wir yn yr hyn a awgrymaist, ymwelydd. Mae y gwyr mawrion yn helpu eu hunain yn helaeth o'r da geir yma. A Chaerdydd, hithau, a ymgyfoethoga ar ein llafur. Ac eto, peidiwch a barnu Dowlais yn hollol wrth y golwg. Mae y bobl yma yn byw yn bur gysurus er y cyfan, yn fwy felly nag y meddylia llawer. Y fath siopau llawnion o bob angenrheidiau bywyd sydd yn mhob cwr. Mae y cyflogau yn fychain, mae'n wir, ond y mae y gweithfeydd yn gweithio yn gyson, ac y mae ymborth ac angenrheidiau eraill yn rhyfeddol o rad, fel nad oes achos cwyno mawr. Yn y dyddiau hyny yr oedd dau ddyn o Ystalyfera yn dolefus ganu mathau o gerddi, gan ymsymud trwy yr heolydd. Ceisient gynorthwy yn eu hadfyd yn y dull hwnw, a llwyddent hefyd. Rhyw deimlo yn ddigalon a phruddaidd yr oeddwn wrth eu clywed, a chwenychwn am ryw ddull arall iddynt apelio am gydymdeimlad.