Treharis-mae yno eglwys luosog a chref. Mae Thomas Edwards, Ysw., brawd y Parch. R. Edwards, Pottsville, Pa., yn ddiacon pwysig yno. Berthlwyd— mae yr eglwys hon yn dal yn llewyrchus, er fod eglwys boblogaidd Treharis gerllaw. Brysiog fu fy ymweliad ag yno. Caed cwrdd nosweithiol, ac adnabyddiaeth ag athraw yr ysgol ddyddiol aelod o'r eglwysac amryw frodyr blaenllaw gyda yr achos. Cefais olwg ardderchog ar y wlad amgylchynol oddiyno. Blaenllechau-mae yr eglwysi o'r ddau tu i'r afon yn gryfion. Mae y Parch. Isaac Jones, Salem, yn berthynas agos i'r diweddar James Richards, Pont-y-pridd; a'r Parch. John Jones, Nazareth, yn frawd i Mr. Aled Jones, Blaenau. Pont-y-gwaith-yr ydoedd y Parch. J. D. Hughes, o Dalysarn, Arfon, newydd ymsefydlu yno. Gresyn fod y capel mor isel i lawr y cwm. Y mae, er hyny, meddir, yn llawn ar y Sabbothau.
Yn hwyr y dydd y cyrhaeddais Caerdydd yr oeddwn i bregethu yn nghapel y Parch. N. Thomas. Yno cyfarfyddais a'r Parch. D. W. Morris, diweddar o Taylorville. Ymddangosai yn llawen o'n cyd-gyfarfyddiad. Gwahoddodd fi i'w lety dranoeth. Arosai ef a'i briod yn nhy chwaer i Mrs. Morris. Bwriadent symud yn fuan i Brycheiniog, i fan arosol rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri, a deallwyf eu bod erbyn hyn wedi gwneyd y symudiad. Dranoeth ymgymerodd a'r gorchwyl o fod yn arweinydd i mi, yn gyntaf i dy y Parch. T. T. Jones, gweinidog Salem, ac yna i dy y Parch. N. Thomas. Ond yn lle iddo ef fod yn arweinydd i mi, bu gorfod i mi fod yn arweinydd iddo ef. Yn y prydnawn yr oeddwn i fyned ymaith gyda y gerbydres i