Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/175

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

on yn adlewyrchu gwawr golygfeydd ysplenydd ardal Bethabara, ei enedigol fro, a dysgleirdeb llachar y môr gerllaw, pan o dan belydrau haul ganol dydd. Ei awen sydd o anianawd nefol, a cheir ei ddarluniadau weithiau fel yn gyfunrhyw a golygfeydd "ardal lonydd yr aur delynau.”

Yn mhlith ei gynyrchion barddonol goreu y mae ei ganeuon ar ei ymweliad a Brycheiniog, ac a'r Parch. Kilsby Jones. Yn y canau hyny gwna megys delyn o Gymru, gan ddefnyddio ei mynyddoedd a'i bryniau, ei llynau, ei hafonydd, a'i ffrydiau, fel tannau iddi. A chwery bysedd ei awen ar hyd y tanau hyn nes tynu o honynt y beroriaeth fwyna erioed.

Bydd ei benillion uwch bedd y Parch. John Roberts, (Tredegar gynt), yn Minersville, Pa., fyw byth. Ni phetrusaf wrth ddweyd mai efe ydyw yr athrylith fwyaf gloew yn Nghyfundeb y Bedyddwyr yn Nghymru heddyw. Pe buasai efe yn feddianol ar haner uchelgais llawer un, gallasai fod yn cael ei restru yn mhlith dosbarth Christmas Evans o bregethwyr.

Yr wyf yn llefaru fel hyn am dano ef oddiar fy adnabyddiaeth agos ag ef, pan yn gyd-fyfyriwr yn Athrofa Hwlffordd, bump-ar-hugain o flynyddau yn ol, yn gystal ag oddiar adnabyddiaeth helaethach o hono ef o'r pryd hwnw hyd yn bresenol.

Pan yn yr Athrofa, arferai y myfyrwyr bron yn ddieithriad, edrych i fyny ato gadag edmygedd mawr.

Y Parch. B. Thomas, D. D., Toronto, Canada, yn awr, (mab yr hybarchus gyn-weinidog Narberth), ac yntau oeddynt gyfeillion mynwesol. Yr ydoedd hoenusrwydd a thuedd chwareus ddiniwed y ddau yn nod-