edig i'r eithaf, ac yn nodweddiadol iawn o nwyfiant personau o dalentau cryfion yn y tymor ieuanc hwnw yn oes dyn. Yn unol a rheolau athrofaol y pryd hwnw, llawer o ddigrifwch diddichell a gaent ar adeg dyfodiad myfyrwyr newyddion i mewn, yn neillduol os ceid ambell un yn cael ei nodweddu gan hunanoldeb. Byddent yn gwneyd gweithrediadau "ordeiniad" un felly yn chwerw iddo; ond dealler, byddai y cwbl yn cael eu bwriadu er daioni y myfyriwr ieuanc.
Pan yn Nghymru, teimlwn awydd cryf i alw heibio iddo, ac yn fy llythyr ato yn ei hysbysu o fy mwriad, amgauais yr englynion canlynol:
Arferaf, Myfyr, ryw fwriad—i ddod
I Dde ar ymweliad;
Hyd Narberth, os caf nerthiad,
Daw 'r ol hyn i'm ado'r wlad.
Morio wnest i'r Amerig—i'm gwel'd i,
A'm gwlad hoff, ryddfrydig;
Dros fryniau môr-donau dig,
Gwir ydyw, o'et garedig.
Ai nid gormod o nôd mwynhau—y daith
Am unwaith i ninau;
Er cael bod ddiwrnod neu ddau
Yn ngwawl dy ddenawl ddoniau.
Yn drylawn mynwn dreulio—yr amser
I ymson a chofio
Hoen y coleg, 'rwy'n coelio,
A llwyr drefn llawer i dro.
O, ryfedd, mae'r athrofa—a'i thymor
Fyth i mi yn para
Yn swynol ddyddorol dda,
O gyffwrdd drwy adgoffa.