wedi dy gyhoeddi neithiwr i bregethu. Dywedais y byddai i ti roddi oddeutu chwarter awr o'th bregeth yn Saesoneg, a'r gweddill yn Gymraeg." "Pob peth yn iawn" meddwn. Daeth capeliad da o bobl yn nghyd. Pregethais inau yn Saesoneg, a rhoddais ychydig eiriau yn y diwedd yn y Gymraeg.
Yn niwedd yr oedfa, cyfodai Myfyr ar ei draed, gan wneyd ymddiheuriad i'r bobl am na fuaswn wedi rhoi ychwaneg o fy mhregeth yn Gymraeg iddynt. Tystlai wrthynt iddo ef fy hysbysu o natur y cyhoeddiad, ac nad oedd ef i'w feio am na chawsent ychwaneg o Gymraeg. Ac ychwanegai y gwyddai ef paham yr oeddwn wedi pregethu cymaint o Saesoneg iddynt, sef mai eisiau dangos iddo ef oedd arnaf, fy hyddysgrwydd yn y Saesoneg, a fy ngallu i bregethu yn yr iaith hono. Hysbysai hefyd mai Sais gwael oeddwn yn dod i'r Athrofa, a rhoddai engreifftiau o fy Saesneg llarpiog y pryd hwnw, er dirfawr ddifyrwch i'r bobl. Yr oedd ef yn dweyd hyn yn y Gymraeg, ac oddiwrth waith y bobl yn gwenu ac yn mwynhau ei sylwadau, gallesid barnu nad oedd neb yn bresenol heb fod yn deall iaith Gwalia. Cydnabyddai fy mod wedi gwellhau yn fawr yn fy Saesoneg; ac os byddai i mi gynyddu cymaint yn yr iaith yn y pum' mlynedd ar hugain nesaf ag oeddwn wedi wneyd yn y chwarter canrif diweddaf, y byddwn yn Sais da erbyn hyny.
Erbyn hyn yr oedd yn amser i minau amddiffyn fy hun, a hyny a wnawn gan ddweyd nad oedd eu parchus weinidog a'm cyfaill hoffus yn hollol gywir yn ei ddehongliad o'm hamcan wrth esgeuluso pregethu Cymraeg. Yr amcan oedd, nid yn gymaint i ddangos