Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oeddym oll yn canmol swyddogion y llong, yn neillduol y cadben a'r purser; yr hen wr a ysgubai y deck a fawr hoffem. Dywedai wrthym iddo fod yn ngwasanaeth y cwmni am 32 o flynyddau. Hen wr parchus yr olwg arno ydoedd, a rhoisom swllt yr un iddo ar ein hymadawiad. Mynych yr aem at ein cyfaill John Rees i gael ymgom, ac yntau atom ninau.

Tynwyd sylw pawb un boreu gan long suddedig, yn y pellder. Ffynai pryder yn ein plith am ei thynged. Ni wyddid eto nad allasai rhai dynion fod yn glynu wrthi. Erbyn agoshau ati, deallwyd mai hen long ddrylliedig oedd, wedi cael ei gyru, efallai, gyda'r tymestloedd fil o filldiroedd. Y tonau yn achlysurol a olchent drosti. Barnem, pe yn nos, y gallasai ein llong fyned yn ei herbyn a chael niwed. Wrth ei gadael o'n hol edrychai yr hen long yn druenus, yn codi ac yn gostwng yn hollol at drugaredd y tonau. Teimlem braidd ein bod yn angharedig wrth ei gadael felly yn ddiamddiffyn.

Treuliasom lawer haner awr yn ymsyniol i edrych ar lafur caled yr ager-beiriant. Teimlem ambell dro duedd gofyn i'r awdurdodau am roddi iddo ychydig seibiant. Swynol yr oedd ei gleciadau yn dweyd yn barhaus, "Myn'd tua Chymru, myn'd tua Chymru."

Wrth agoshau at dir Iwerddon, mawr oedd yr awydd am weled tir; ac O! mor ddymunol oedd cael y drem gyntaf arno yn ngoleu y wawr, er mai tir y Gwyddel ydoedd. Ein prif waith y dydd canlynol oedd manwl sylwi ar lanau yr Ynys Werdd-yr adeiladau gwynion―y meusydd teg, a'r tyrau amrywiol. Tua haner dydd yr oeddym yn hwylio heibio i oleudy mawr ar graig