Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/180

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy hyddysgrwydd yn yr iaith, ond yn benaf er gwneyd fy hun hun yn ddealladwy i'r gynulleidfa; canys yr oeddwn wedi deall y cyhoeddiad o enau y gweinidog yn tybio rhywbeth fel hyn: "Saeson ydyw y bobl yma, wel di, ond mae rhai o honynt yn deall tipyn o Gymraeg; a rhag i ti ddygwydd methu gyda y Saesoneg, paid gofalu am bregethu llawer yn yr iaith hono; dywed ychydig bach yn y Saesneg, os gelli, yn y dechreu, ac yna ymollwng i'r hen Gymraeg." "Yna," meddwn, "yn lle trugarhau wrthyf fy hun, yn ol yr awgrym yna gan eich gweinidog, trwy beidio dweyd Saesoneg, cydymdeimlais a'r bobl yn hytrach, nad oeddynt yn deall Cymraeg yn ol yr hysbysiad a gawswn-gan ddweyd wrthynt fel y gallwn yn yr iaith a ddeallent.”

Arwyddai y bobl deimladau hynod foddhaus tra yn gwrando ar yr egluriadau pwysig yna o'r ddau du; felly yn y diwedd, a chymeryd y cyfan o'r gweithrediadau i ystyriaeth, credwyf y cafwyd cyfarfod go lew, a hyny heb archolli y Saesoneg yn ddrwg iawn, nac archolli neb arall. Ond yr oedd yr hwyl a gafwyd trwy y sylwadau diweddaf i'w briodoli yn benaf i natur dda a ffraethineb Myfyr Emlyn.

Bu galar Mr. Thomas yn fawr ar ol ei anwyl briod, "Margaret," ac y mae rhagluniaeth Duw fel pe wedi cydymdeimlo drosto, a rhoddi iddo ail Mrs. Thomas, o nodweddau gwraig rinweddol.

Ni fu fy arosiad ond yn unig dros noswaith. Canol dydd dranoeth yr oeddwn yn cefnu ar Narberth, gan deimlo fy mod wedi byw llawer iawn mewn ychydig iawn o amser, a chael mwynhad o gymdeithas cyfaill a brawd oedd o'r fath werth a dyddanwch nad allaf ei hanghofio tra fyddwyf.