ysblenydd diweddar. Maent rywfodd yn fwy fforddus —felly y siop hon. Deuai pecyn o Seren Cymru yno ar y pryd, ac yr oedd hyny eto yn asio yn ddymunol a phethau eraill.
Daeth y Parch. T. E. Williams, Aberystwyth, i mewn, yr hwn oedd o amgylch yn casglu tanysgrifiadau at un o gymdeithasau cyffredinol yr enwad. Ynddo ef ceid hefyd elfen gydnawsiol.
Yr oedd y gweithwyr yn troi ffrynt capel y Bedyddwyr lawr y dref, at yr heol, yn lle fel o'r blaen. Tybiwn mai gwaith da yr oeddynt hwy yn ei wneuthur.
Wrth holi, deallwn nad oeddwn yn mhell yma oddiwrth Castell-hywel, yr hwn le a wnaed yn enwog trwy enwogrwydd yr adnabyddus a'r clodfawr David Davis, Castell-hywel. Pe amser yn caniatau, buaswn yn myned i gael cipolwg ar y fangre. Deallais i wyr o fri iddo ef fod yn yr ysgol yn Llandysul, sef Thomas R. Davis, Ysw., Philadelphia, yr hwn, pan boenid ef yn ddibaid gan ryw ddau o fechgyn yr ysgol, a droes o'r diwedd atynt ac a ddiwallodd y ddau a churfa dda.
Yn y prydnawn elwn tua'r Drefach. Cefais fwynhad wrth dremio ar y wlad bob cam o'r ffordd, yr hon oedd dipyn yn droellog; yn y trofeydd mynych, mynai y ffordd fy nghael i ail-edrych, megys, ar lawer golygfa.
Yn Drefach cefais ddadl dwymn â Thorïaid, yn nhy Mr. Lewis, cefnder y Parch. J. Lewis, Abertawe. Yr oeddynt yn dri. Mynent nad oedd gan y Gwyddelod un hawl i ddweyd dim yn y Parliament o berthynas i Home Rule. Safent ar yr un tir, meddynt, a charcharor o flaen y fainc. Gwesgais hwy i gornel yn y man hwn. Braidd y credaf y clywsent neb erioed o'r blaen