yn dweyd y drefn mor hallt yn erbyn Torïaeth a gorthrwm. Gan yr ofnwn fy mod wedi cymeryd gormod o ryddid mewn ty dyeithr, gwnawn esgusawd i wr y ty am fy eofndra, ond sicrhai fi nad oedd angen.
Mae yr achos yn Drefach yn llewyrchus, ac o dan aden eglwys Castellnewydd Emlyn.
Ar fy ffordd i'r lle olaf gwelais dy tô gwellt prydferth iawn, ar ymyl y ffordd, ar y dde i mi. Dywedaf prydferth, canys felly yr ydoedd-glanwaith, gwyn, twt, trwsiadus, a phob gwelltyn yn ei le, a gerddi bychain yn llawn blodau o'i gylch.
Yn ymyl Castellnewydd Emlyn cyfarfyddais a'r Parch. Mr. Davies, brawd Mr. Daniel Davies, Carbondale,—efe oedd ar geffyl yn myned adref o'r farchnad.
Yna cyfarfyddais ag un o'r Thomasiaid, mewn cerbyd yn cael ei dynu gan ddyn. Nid ofnai i'r ceffyl redeg, yr hyn oedd yn beth gwerthfawr i ddyn afiach nervous.
Mae capel y Bedyddwyr yn Castellnewydd yn raenus, ac yn meddu lleoliad yn nghanol y dref. Cyn ymadael, aeth Mr. Griffiths, y gweinidog, a fi i weled y dref, yr hen gastell, y bedydd-fan, a'r tloty gerllaw, yr hwn oedd fel parlwr, ond bron heb neb ynddo. Aelod yn eglwys Mr. Griffiths yw y goruchwyliwr.
Cymerais y coach i Aberteifi ddydd Sadwrn. Y gyrwr wedi cael "llymaid," a gymerai "lymaid” eilwaith, a thrydedd waith. Gan fod yr amser yn myned wrth sefyllian gyda'r "llymaid," yr oedd yn rhaid i'r ceffylau a'r hen coach fyned i wneyd i fyny y coll. Ni fuaswn erioed o'r blaen mewn cerbyd yn cael ei dynu gan geffylau yn myned mor chwyrnellol. Gyrwyd mewn un man ar draws trol ac asyn, gan daflu y