cyfryw ar amrantiad o'r neilldu. Ofnwn mewn gwirionedd y teflid finau a'm cwmpeini o'r neilldu gan fel y carlamai y meirch. Dysgwyliwn bob mynyd am dynged anhapus. Cyrhaeddwyd Aberteifi yn ddiogel, a gorfoledd mawr oedd hyny. Oni buasai fod yr heolydd yn llyfn-wastad, buasem oll wedi ein chwilfriwio. Meddyliwn beth fuasai y canlyniad o yru felly ar ambell ffordd yn America.
Yn fy nysgwyl wrth y cerbyd yr oedd hen gyfaill o gyd-fyfyriwr, y Parch. Thomas Phillips, gweinidog eglwys y Ferwig, yr hwn a gartrefa yn Aberteifi.
Wrth fyned i fyny i Ferwig foreu Sabboth yr oeddwn yn myned heibio hen gartref yr hybarch John Herring. Yn eglwys y Ferwig y dechreuodd y Parch. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa., weinidogaethu.
Trwm i mi yno oedd sefyll ger bedd Mr. B. Jones, brawd rhagorol fuasai farw yn ddiweddar, ac yn fuan wedi ei ddychweliad o America, lle y buasai fyw amryw flynyddau.
Cefais foddhad mawr yn ngwaith Mr. Phillips, y gweinidog, yn rhoddi emynau allan; synwn nad oeddwn wedi gweled yr emynau yn y "Llawlyfr Moliant," o ba lyfr yr oedd efe yn eu darllen.
Pregethais am ddau yn y prydnawn yn Penyparc, ac yn yr hwyr yn Aberteifi. Yn Aberteifi yr oedd y gynulleidfa yn fawr, ac yr oedd pwysigrwydd y lle yn gwneyd i mi fod yn dra awyddus er sicrhau cwrdd derbyniol. Mae yr eglwys yma yn parhau mewn cyflwr llwyddianus o dan weinidogaeth y Parch. J. Williams, yr hwn a lafuria yno er's amryw flynyddau.