Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXIX.

Yn Sir Benfro

Treuliais Sabboth yn Llandudoch a Gerazim. Mae cynulleidfa y lle cyntaf yn parhau mor fawr ag erioed. Y pryd hwnw yr oedd capel Blaenywaen yn cael ei adeiladu o'r newydd. Mae y Parch. E. Jones, gweinidog yr eglwysi hyn, yn cael ei ystyried yn un o weinidogion mwyaf poblogaidd yr enwad yn Nghymru. Yn ddiweddar derbyniodd alwad unfrydol oddiwrth eglwys fawr, barchus, Bethesda, Abertawe. Er nad yw efe ond dyn ieuanc, a bychan o gorpholaeth, mae ei ddoniau pregethwrol yn nodedig. Mae capel newydd destlus yn Gerazim.

Yr wythnos hon gelwais gyda'r eglwysi yn Penybryn, Cilgeran, Blaenyffos, Bethabara, ac Ebenezer. Yr oeddwn yn hollol adnabyddus yn y parthau hyn ac i lawr hyd Tyddewi, pan yn Athrofa Hwlffordd, oddeutu pum' mlynedd ar hugain yn ol, a theimlwn fy hun yn fwy cartrefol yn y parthau hyn nag y gwnaethwn yn flaenorol yn y manau dyeithr y daethum heibio iddynt.

Wedi'r cwrdd yn Penybryn yr oeddwn yn myned i letya i dy Mr. Jonathan George, Pantygrwndda, ac yr oedd Mr. Evans, y gweinidog yn y cwmni. Yr oedd yn noson pur dywyll, ac yn hytrach na dilyn y brif heol, torem ar draws y caeau, gan ddilyn math o lwybrau, er byrhau y ffordd. Blaenorid gan Mr. George, Mr. Evans a finau yn canlyn. Mewn un man dygwyddodd fod ôg ddraenen, neu beth tebyg, yr ochr