bellaf i'r clawdd a groesid, a chan nad oedd yr arweinydd yn ymyl, a'r noson yn dywyll, aeth Mr. Evans yn ddiarwybod i'r ddraenen, gan ddisgyn iddi megys ar ei eistedd, a bu yn aros felly am dipyn, gan chwerthin allan at ddigrifwch ei sefyllfa. A chan yr ymddangosai fel wedi sefydlu ei hunan yno, nid wyf yn sicr na fuasai efe yn eithaf boddlawn i aros yno nes cyrhaedd Pantygrwndda, pe buasai ceffyl i'w dynu ef yno yn ei gerbyd ddraenen. Atebodd Pantygrwndda (ein llety), yn dda i'w enw. Cafodd Mr. Evans a minau le cysurus, a charedigrwydd fel y môr.
Nos dranoeth yn Cilgeran, daethai i'r oedfa y Parch. T. Phillips o Aberteifi, a'r Parch. N. Davies o'r lle, (hen gyd-fyfyriwr eto, nas gwelswn ef er's llawer blwyddyn). Mae capeli Cilgeran a Pen-y-bryn bron yn newydd, a'r eglwysi yn gryfion.
Yn nghapel Blaen-y-ffos yr oedd dipyn yn niwliog arnaf fi a'm gwrandawyr. Ar y lampau yr oedd y bai. Prin y gwelem ein gilydd yno wrth graffu.
Brodor o Blaen-y-ffos yw y pregethwr poblogaidd, y Parch. Jno. W. Williams, D. D., Scranton, Pa.
O'r ty y lletywn yn Bethabara dangosid i mi hen gartref Myfyr Emlyn, gerllaw. Aethwn yno i'w weled a'i edmygu pe cawswn arweinydd ar y pryd. Gwelais ei hoff fynydd, y "Freninfawr."
Y noson yr oeddwn yno y traddodai Mr. Gladstone ei araeth fawr yn y Senedd, yn ffafr "Ymreolaeth" i'r Iwerddon. Bum yn darllen yr hanes yn y papyr trwy y boreu dranoeth.
Gelwais i weled mam oedranus y brawd Griffith G. Watts, Bevier, Mo., ar fy ffordd i Ebenezer.