Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/187

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bum yn dra anffortunus ar fy ffordd o Aberteifi i Trefdraeth. Cefais fy nhrawsnewid ar unwaith o fod yn wr boneddig cyfoethog, i fod yn wr tlawd dinôd. Cymerodd yr amgylchiad anffodus le fel hyn: Danfonai Mr. Williams, gweinidog Aberteifi fi yn ei gerbyd ysblenydd haner y ffordd i Drefdraeth, ac yn y fan hono dyma y cerbyd yn sefyll, a mnau yn gorfod myned i lawr o hono, gan gymeryd fy nau droed i'm cario weddill y ffordd.

Cysurwyd fi ar y ffordd ger Llan Nanhyfer, wrth edrych ar y plant yn dod o'r ysgol ddyddiol yn ymyl fy llwybr. Ymfwrient allan fel o garchar, gan adseinio y gymydogaeth a'u lleisiau puraidd mewn nwyfiant chwareuol.

Yn mhellach yn mlaen, wrth fyned trwy ffordd a rhandir palas Nanhyfer, meddianwyd fy mherson yn sydyn gan anystwythder rhyfedd; aethai y "stiffni" trwy fy holl gymalau, ond yn unig fy nghoesau. Teimlwn ef yn benaf yn llinynau ol fy ngwddf, fy ngwar a fy nghefn. Yr oedd yn fy mreichiau hefyd a'm gwyneb—ni allwn gymaint a chodi fy llaw at fy het. Y man y teimlais ei effeithiau amlycaf oedd pan y cyfarfyddais a dwy foneddiges ieuanc, perthynol i'r palas,、 yn fy nghyfarfod ar eu ceffylau, gan grechwenu siarad a'u gilydd mewn llais arianaidd. Drwg iawn oedd genyf nad allwn, oblegid yr anystwythder a nodwyd, gymaint a gwneyd un math o foes-gyfarchiad iddynt. Yn eu dilyn yr oedd groom; yntau ar ei geffyl, ac yn cadw o fewn pellder teilwng o bellder sefyllfa ac amgylchiadau. Pan y cyfarfyddais ag ef, er fy syndod, yr oedd yr anystwythder wedi fy ngadael i raddau hel-