aeth! a gellais wneyd dipyn o foes-gyfarchiad iddo ef; a phan yn fuan y cyfarfyddais a'r game-keeper gadawsai y "stiffni" fi yn hollol! oblegid ni chefais un drafferth i'w foes-gyfarch ef, a chael ymgom ddifyr.
Wedi cyrhaedd Trefdraeth, prin yr adnabyddwn y dref. Gwisgai olwg ddyeithriol i'r eithaf. Yr oedd y gwestai fel wedi derbyn cyffyrddiad o'r parlys. Yr oedd y tai a wynebent y mynydd yn gwneyd golygon cyffroadol. Holwn am dy Mr. Jenkins, y gweinidog. Dangosid ei dy ar ochr y mynydd. Wedi i mi gael fy anadl ar ol cyrhaedd y ty, hysbysai Mr. Jenkins fi fod yn ddrwg ganddo nad oedd un cyhoeddiad i mi yno, oblegid fod cwrdd dirwestol yn cael ei gynal yn y capel y noson hono. "Pob peth yn dda,” meddwn.
Ar y ffordd trwy y dref i lawri'r capel, clywwn sisial am y cwrdd dirwestol o enau pawb a gyfarfyddwn. Mewn ambell fan yr oedd yn gyffro gwrth-darawiadol rhwng yr elfenau dirwestol a'r gwrth-ddirwestol; ond nid oedd gan yr elfen olaf un siawns i gael chwareu teg gan fod yr elfen ddirwestol gymaint yn gryfach. Prin y gallem ymwthio yn mlaen i gymydogaeth y pwlpud gan mor lawn o bobl oedd y capel. Wedi i'r pregethwr dyeithr o America ddechreu y cwrdd yn y dull pregethwrol cyffredin, traddododd y Parch. Mr. Jenkins araeth agoriadol ddirwestol gref. Cenid yn ddirwestol yn aml. Traddodid anerchiadau dirwestol doniol dros ben. Prin yr oeddwn yn gallu sylweddoli fy hun a'r amgylchiadau gan mor ryw ddyeithriol oedd y cyfan; canys ni chyfarfyddaswn a dim yn debyg yn yr holl barthau hyny. Tua diwedd y cwrdd, pan wneid cyfeiriadau at y trefniadau dirwestol yn y dyfod