Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan welai y gyriedydd ni yn sefyll gan graffu arno yn yr helbul, ac yn chwithig yr olwg arno, cywilyddiai, ac aethai yn fwy afler fyth wrth lafurus ymdrechu gwrthwthio yr asyn, a'i gael i symud yn mlaen gyda y drol o'r yard i'r heol. Methem ddod i benderfyniad sicr beth oedd dyben yr asyn wrth wneyd gwrthddrychau mor ddigrifol o hono ef ei hun a'i feistr-pa un ai ystyfnigrwydd natur asynaidd, ynte dial am gam a gawsai yr ydoedd, ac yn flaenorol wedi gwylied am gyfle manteisiol i dalu y pwyth yn ol, ac yn awr y cyfle hwnw wedi dod; neu ynte a'i rhyw duedd ddireidus ddiniwed, ac awydd am dipyn o ddigrifwch ar fin y brif-ffordd oedd wrth wraidd y ddrama ddigrifol, ni allem ein dau ddyfalu. Gogwyddem i dybied mai y ddamcaniaeth ddiweddaf oedd y debycaf o fod yn gywir.

Cefais olygfa ddigrifol arall yr un dydd, mewn cwr arall o'r dref, pan yn cyd-rodio a'r Parch. J. Jenkins, gweinidog Hill Park, o Prendergast, ychydig yn uwch i fynu na ffrynt y capel Cymreig. I'n cyfarfod deuai dyn yn arwain ceffyl a throl, ar y ffordd adref o'r farchnad. Deuai yn mlaen ar y llaw ddehau i ni. Pan y daeth bron yn gyferbyniol, edrychai ar Mr. Jenkins yn fygythiol, gan wneyd defnydd cas o'i dafod, trwy fwrw ato gabledd difriol, brwnt a miniog. "Wel, dyma hi," meddwn wrthyf fy hun, "gweinidog yr efengyl yn cael ei athrodi fel hyn ar yr heol. Tybiwn yn uwch o Mr. Jenkins na'i fod yn haeddu peth fel hyn." Ac yr oeddwn mewn dyryswch beth allai hyn fod. Ebe y dyn, "O, 'r ydwyf yn deall yn awr pa fath ddyn y'ch chwi. Hen dwyllwr anghyfiawn ydych, a chewch chwi