Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyoddef am y cam a wnaethoch a mi." Methwn ddeall peth fel hyn! Yn fuan, modd bynag, daeth goleu ar y mater. Mae yn debyg fod y dyn hwn newydd basio gwir wrthddrych ei ddygasedd, a chan fod y ddau yn ymsymud mewn cyfeiriadau gwrthgyferbyniol i'w gilydd, methai y dialydd uchel-leisiog, cabldraethol, gadw cyfeiriad ei wyneb at ei elyn gwirioneddol, a chymeryd gofal o'i geffyl a'i drol yr un pryd; er hyny, cadwai ei wyneb yn yr un ffordd a phan yr oedd y gwrthddrych digasol yn gyferbyniol iddo. A phan y daeth Mr. Jenkins gyferbyn, a chymeryd lle y gelyn ar yr heol, efe a wnaethpwyd yn fwch diangol, megys i ddwyn holl bechodau y troseddwr.

Yn Blaenconin cyd-deithiwn mewn cerbyd a brawd o'r eglwys, ac adroddai i mi hanes tramor-ddyn fuasai yn ddiweddar ar ymweliad ag ef am rai wythnosau, ac a broffesai fod yn frawd iddo. Y tramor-ddyn apeliai ato yn y man am fenthyg symiau o arian. Yntau a gydsyniai, gan gredu ei fod trwy hyny, yn gwneyd cymwynas i'w frawd. Wedi myned o'r dyn dyeithr ymaith, cawsai y cymwynaswr reswm i amheu gwirioneddolrwydd y berthynas; ac yr ydoedd mewn trallod a gofid blin o herwydd y dwyll-drafodaeth a ddygwyddasai. Yr hyn a barai i mi y mwyniant penaf ar y pryd ydoedd dull haner-geiriol, bratiog, anghysylltiol, annrhefnus y dyn yn adrodd i mi yr hanes. Yr oedd yr hanes ynddo ei hun, fel y deuais i'w ddeall ar ol hyny gan wr o'r gymydogaeth, yn llawn dirgelwch, er ei osod allan yn y dull egluraf yn bosibl. Ond yn yr adroddiad a gawswn yn y cerbyd, yn iaith fratiog, fyngys, ddyryslyd fy nghydymaith, yr oedd y cwbl yn