Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyeithr wirioneddol. Yn wir, rhoddais i fyny ei holi o'r diwedd wrth geisio deall beth a ddywedai wrthyf. Nid oedd dim i'w wneyd ond gwrando ar swn y gabolach ymadroddol, ac arwyddo fy mod yn gwrando yn astud, trwy ddweyd yn achlysurol, "Ie, ie, felly wir, rhyfedd, hynod iawn, dear me, yr anwyl bach." Wrth ei wrando, gresynwn yn fawr na fuasai y Parch. D. Phillips, Croes-goch, yn clywed y faldordd gymysglyd o enau y dyn wrth fy ochr.

Wedi treulio Sul yn Blaenconin, boreu Llun gelwais yn nhy y Parch. Owen Griffiths, y gweinidog, yr hwn ydoedd ar ei glaf wely. Drwg oedd genyf ei fod ar y pryd yn rhy wanaidd i mi gael golwg arno.

Gelwais yn Whitland, yn St. Clears, a Salem, Mydrin. Pan yn y lle olaf lletywn yn nhy chwaer i'm cyfaill, y Parch. B. Thomas, D. D., Toronto, Canada.

Bum yn nhref Caerfyrddin am y tro cyntaf erioed. Cefais oedfa yn y Tabernacl. Y gweinidog yw y Parch. John Thomas, yr hwn a ystyrir yn un o weinidogion blaenaf yr enwad. Breintiwyd fi hefyd a chymdeithas ddyddan y Parch. Griffith H. Roberts, gweinidog Peniel.