Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/198

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXX.

O Pen-y-bont i Gaersalem Newydd.

Pen-y-bont fel cynt. Y Parch: G. James yn weinidog, ac yn siarad am gael capel newydd. Anrhegodd fi a darlun da o'r hen gyn-weinidog enwog-y Parch. Owen Michael.

Pan elwais gyntaf yn Maesteg, yr oedd y Parch. R. Hughes yn fyw. Pan agorodd efe y drws, aeth ias o syndod droswyf wrth weled arno gymaint o arwyddion henaint a dadfeiliad Pan elwais eilwaith, yn mhen ychydig fisoedd, nid ydoedd. Pan fu farw Mr. Hughes, aeth ton o alar dros yr enwad.

Y Parch. E. Jones, (hen gyd-fyfyriwr), yw y gweinidog yn y Tabernacl. Yr oedd amgylchiadau y bobl yn nghymydogaeth ganolog ei gapel ef, yn isel ar y pryd.

Yn Salem, y Parch. J. Ceulanydd Williams yw y gweinidog—tery yn dda yno, meddir. Y mae efe yn llenor a bardd o nod.

Brodor o Maesteg ydyw y Proffeswr Apmadoc. Ynddo ef ceir esboniad da ar y geiriau, "Pa fodd y glanha llanc ei lwybr?" Nid oes foneddwr o Gymro yn America yn fwy teilwng o barch nag Apmadoc. Diau fod gwasanaeth a phresenoldeb y boneddwr hwn yn Eisteddfodau a chyngerddau y genedl yn y Talaethau, yn meddu gwerth deublyg.

Yn Pisgah, Pyle, y Parch. W. Haddock yw y bugail. Pan oeddwn yno yr oedd y cymylau fuasent yn ei or-