Pan elwais heibio Aberafon yr oedd y Parch. O. Waldo James yn parotoi yn brysur i ymfudo i America. Rhyfeddwn ato yn gadael maes mor ardderchog, eglwys mor fawr, capel mor ysblenydd, ond yr oedd yn glaf, efe a'i deulu am groesi y dw'r i America. Deallwn fod teimlad dwfn o'i golli yn yr eglwys, y lle, a'r cymydogaethau, a thrwy holl gylchoedd ei ddefnyddioldeb yn yr enwad.
Pregethais yn Rehoboth, Llansawel. Cwynid oblegid iselder masnachol, yr hyn oedd yn effeithio ar yr eglwysi yn y lle; eto hyderent nad oedd ond amserol.
Cynulleidfa y Parch. B. Evans, D. D., Castellnedd, oedd yr oreu am wrando a welais yn holl Gymru. Teimlwn yn hynod flinderus oblegid mawredd llafur yr wythnosau blaenorol. Ofnwn am y cwrdd. Dewisais ryw bregeth a dybiwn fuasai yn taro ei bobl ef. Fel yr elwn rhagwyf, gwelwn nad oedd un gair yn myned yn ddisylw. Yn nghynulleidfa Dr. Evans ceir prawf mai y gweinidog sydd i benderfynu pa fath wrandawyr sydd ganddo. Bu croesawiad Dr. Evans a'i bobl i mi yn frwdfrydig. Daeth efe gyda