chuddio trwy farwolaeth ei anwyl wraig, yn symud ymaith yn brysur. Yr oedd newydd briodi ail wraig ragorol.
Awr fu yr alwad yn Cwmafon. Mae Mr. Llewelyn Griffiths a'r brodyr eraill yno yn dwyn tebygolrwydd agos, mewn person a natur, i'r adnabyddus gerddor gwych, a'r Cymro twym-galon, Mr. T. D. Griffiths, St. Clair, Pa., yr hwn sydd yn frawd o waed coch cyfan mi prydnawn dranoeth i Aberdulais, a dygodd fi gydag ef adref y noson hono ar ol y cwrdd.
Bum yn Clydach, lle mae y Parch. T: V. Evans, brawd Dr. Evans (Ednyfed), yr hwn a fedyddiwyd oddiwrth y Trefnyddion Calfinaidd, yn weinidog. Llenwa efe yn dda ddysgwyliadau a goleddid am dano ar adeg ei droedigaeth.
Ymwelais ag un o eglwysi y Parch. E. W. Davies, uwchlaw Llangyfelach.
Mae eglwys Treforris yn gref a lluosog. Y gweinidog yw y Parch. Robert Roberts. Adnabyddir ef fel pregethwr poblogaidd iawn, ac fel y cyfryw lleinw ei le yn gampus. Yn ei eglwys ef mae y brawd John W. Morgan, yr hwn fu rai blynyddau yn America.
Ychydig uwchlaw Treforis y mae Caersalem Newydd. Y Parch. Isaac Thomas yw y gweinidog. Y mae efe yn hysbys trwy holl Gymru fel dirwestwr selog a chydwybodol, a gwna waith mawr yn y cyfeiriad daionus hwn, yn gystal ag fel gweinidog gartref.
Yma erys y Parch. D. W. Jones, diweddar o Drifton, Pa. Ceidw siop fechan, gan gartrefu gyda ei anwyl fam. Tuedd parhau yn wanaidd sydd i'w iechyd. Yr oedd yn dra siriol o'n cyd-gyfarfyddiad. Holai gyda dyddordeb am ei hen gyfeillion yn America.
Gelwais heibio Adulam, Llansamlet. Y gweinidog yw y Parch. J. D. Harris, brodor o Sir Benfro. Brawd rhyfeddol o fwyn a charedig yw efe. Lletywn yn nhy Mr. Cornelius B. Griffiths, un o feibion y diweddar Barch. Jeremiah Griffiths, Ashland, Pa. Mae meibion y brawd ymadawedig hwn yn troi allan yn ddynion rhagorol. Mae un o honynt yn weinidog llwyddianus