yn Llanidloes, a'r llall yn New Tredegar. Y mae dau o'i feibion yn byw yn Llansamlet, ac yn aelodau heirdd a gweithgar yn eglwys Adulam. Y mae iddo hefyd. ddwy ferch yn byw yn y lle, ac yn aelodau selog o'r un eglwys.
PENOD XXXI.
Yn Llanymddyfri a Rhandirmwyn.
Mae tref Llanymddyfri mewn sefyllfa dra difyrus, mewn dyffryn yn cael ei ddyfrhau yn dda, ac yn cael ei chylchynu a bryniau wedi eu gorchuddio a choed. Mae sefyllfa ganolbarthol y dref yn rhoddi iddi sefyllfa bwysig yn y wlad. Y mae dyddordeb hanesyddol yn perthyn i'r lle hwn, fel maes genedigol y Parch. Rees Pritchard, a adwaenir gan y cyhoedd wrth yr enw "Ficer Llanymddyfri." Y mae wedi enwogi ei hun am ei waith prydyddol, dan yr enw "Canwyll y Cymry," neu yn ol yr enw cyffredin, "Llyfr y Ficer," yr hwn sydd gyfansoddiad dysyml a diaddurn, yn cynwys nifer mawr o ganiadau ar destynau ymarferol a phrofiadol, yn union o'r fath ag yr oedd y wlad yn sefyll mewn angen ar y pryd. Bu yn ddigaregydd gwerthfawr i eraill a ddaeth ar ei ol, efallai yn rhagori o ran gwisg, ond nid o ran ysbryd a defnyddioldeb. Ganwyd y Ficer yn 1575, a bu farw yn 1644.
Mae yma gapel newydd destlus. Gwnaeth Mr. Davies, y gweinidog, a'r eglwys, yr hyn a allent er gwneuthur fy ymweliad yn ddyddorol i mi. Cefais oedfa hwyrol.