Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/205

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywyll ar feddwl y Parch. C. Williams, y gweinidog, na neb arall y pryd hwnw. Cefais gipdrem ar Aberhonddu. Ar fy ffordd i'r Gogledd, yn ddiweddol, cefais fwynhau cymdeithas yr adnabyddus a'r clodfawr, y Parch. Edward Matthews, Ewenny, am rai oriau wrth gyd-deithio yn y trên yn nghyfeiriad Mont-lane. Dyna ddyn trwm yw efe !

PENOD XXXIII.

Yn y Gogleddbarth.

Machynlleth a Talywern.—Mae tref Machynlleth o adeiladaeth mwy unffurf na llawer o drefi Cymru―ei hystrydoedd yn llydain ac uniawn, a'r tai gan mwyaf o ymddangosiad parchus. Er ei bod yn ganolbwynt gweithfeydd gwlan y rhan orllewinol o'r wlad, nid yw hyd yn hyn, meddir, wedi cyd-gerdded a threfi y parth dwyreiniol. Tybir mai llygriad yw ei henw o Mancyn-llaith, gan ddynodi ei safle wrth gaincfor y Dyfi. Gwanaidd yw yr achos Bedyddiedig yn y dref hon. Brodor o'r gymydogaeth yw y brawd Richard R. Owens, Freedom, N. Y. Y cyfleustra a gefais i fyned oddiyma i Dalywern oedd mewn rhan o gerbyd am ran o'r ffordd, a'r gweddill ar fy nau droed; y pellder i gyd oddeutu chwech milltir. Yn y cerbyd yr oeddym yn dri, ac eisteddwn i yn y rhan ol, a'r ddau yn mlaen yn ymddyddan yn frwd ar wleidyddiaeth (canys amser etholiad ydoedd), a minau yn gwrando ac yn rhoi ambell air i mewn yn ffafr rhyddid. Yn Talywern