Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/206

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lletywn yn nghartref cysurus Mrs. Mary Lloyd. Dangosai cyfeillion i mi y fan, ar fin yr afon, o dan goeden gangenog, lle y safai yr anfarwol Christmas Evans i bregethu ar adeg dechreuad yr achos yn yr ardal. Cefais oedfa pur gysurus, a hawddgarwch nid bychan. Tranoeth daeth y Parch. Mr. Edwards, y gweinidog, i'm hebrwng, gan gyd-gerdded yn hamddenol hyd o fewn ychydig bellder i Machynlleth.

Harlech a Llanbedr. —Cyfansoddwyd yr englyn canlynol i Gastell Harlech, gan yr hen fardd William Phillip:

Llys Bronwen, glaerwen, lawn o glod—ollawl
A Chaer Collwyn hynod;
A Llys Llur eglur wiw-glod,
Ni all fyth un o'i well fod."

Sicrheir fod yma amddiffynfa Brydeinaidd yn foreu, yn myned dan yr enw Twr Bronwen, oddiwrth Bronwen, merch Bran ab Llyr fel y bernir, a'r hon wedi hyny a gafodd yr enw Caer Collwyn. Dywed rhai haneswyr fod y Castell wedi ei sylfaenu mor foreu a'r flwyddyn 530, gan Maelgwyn Gwynedd; ond yr adail bresenol a gyfodwyd gan Edward y Cyntaf, ac a alwyd "Arlech," oddiar ei safle ar graig, neu Harddlech, y graig deg.

Mwyn ddyddorol i mi oedd galw heibio i Harlech, canys arferwn gynt fyned trwy y lle yn fynych ar fy ffordd i Llanbedr i "ddweyd dicin" yn nghymdeithas cyfaill. Tybiwn y pryd hwnw y byddai capel y Bedyddwyr Sandemanaidd ar ochr y bryn cyfagos, yn ychwanegu at fwyneidd-dra yr awyrgylch. Mae capel bychan yn Harlech yn awr gan yr "yr hen Fedydd-