wyr." Cyn-weinidog Cefn Cymerau, ger Llanbedr, yw Parch. William Evans. Rhoddodd efe ofal yr eglwys i fyny yn ddiweddar, ac y mae dyn ieuanc o Athrofa Llangollen wedi cymeryd ei le yno ac yn Harlech. Y gweinidog hybarchus hwn a'm bedyddiodd i yn y Garn, yn 1847. Mab ydyw i'r hybarch Evan Evans. Deallwn fod tysteb yn cael ei wneyd iddo yn bresenol, yn gydnabyddiaeth am ei ffyddlondeb a'i lafur fel gweinidog yr efengyl. Treuliais Sabboth mwynianus yn Cefn Cymerau yn Hydref, 1885.
Llangollen a Cefnmawr.—Dyma hen feusydd gweinidogaeth y Parchn. John Prichard, D. D., ac Ellis Evans, D. D. Y tro o'r blaen yr oeddwn yn Nghymru, yn Hydref, 1880, yr oedd Dr. Hugh Jones yn fyw, ac yn llenwi cylch pwysig, a thrist oeddwn wrth gael ei le ef yn wag yn Llangollen y tro hwn. Ganwyd Dr. Pritchard Mawrth 25, 1796, mewn ffermdy bychan, tua milltir o dref Amlwch. Bu farw Medi 7, 1875. Bu yn gweinidogaethu yn Llangollen dros haner can' mlynedd. Dywed ei fywgraffydd, y Parch. O. Davies, yr hwn a fu yn fyfyriwr yn y coleg pan oedd efe yn Llywydd, ac yn gyd-weinidog ag ef am flynyddau, am dano yn niwedd ei gofiant, "Ffarwel, fy hen athraw anwyl; bydd adgofion am eich cymdeithas, a dylanwad iach a dyrchafedig eich cymeriad, yn foddion gras i mi tra y byddaf ar y ddaear."
Treuliais Sabboth yn Cefnmawr a Cefnbychan; a nos Lun yn Seion, Cefnmawr. Sefais yn hir mewn adgof hiraethlon wrth fedd y Dr. Ellis Evans. Ganed ef Mehefin 22, 1786. Bu farw Mawrth 28, 1864, yn 78 oed. Bu yn weinidog yn y Cefnmawr 39 o flynydd-