au. Mae ol gweinidogaeth efengylaidd Dr. Ellis ar lawer yn America heddyw, megys y personau canlynol yn Shenandoah, Pa.: Edward Wright a'i briod, John Evans a'i briod, Jonathan Rogers a'i deulu, John R. Jones, ac eraill.
Pan yn y cylchoedd hyn gelwais yn Pen—y—cae, y Fron, a'r Garth. Yn y lle olaf gelwais yn nhy chwaer i'r brodyr rhagorol, Mr. D. Price, Lima, O., a Mr. E. Price, California. Gwelais y Parch. W. Williams, cyn weinidog y Fron a'r Garth.
Ffestiniog.—Y fath gynydd mae y Bedyddwyr wedi ei wneyd yn y lle hwn. Buais yn pregethu yma ar ddechreuad yr achos. Yn awr y mae yno dair eglwys; dwy o honynt yn gryfion, a thri chapel da ganddynt. Holid fi yn barchus am y brodyr da, Evan Roberts, Utica, N. Y., a Robert Griffiths, Summit Hill, Pa., ac eraill.
Pur wanaidd yw eglwys Penrhyndeudraeth. Y Parch. J. G. Jones, yw y gweinidog, yr hwn a gyfanedda mewn palasdy gerllaw.
Porthmadoc.—Ugain mlynedd yn ol yr oedd y dref hon yn fywydus yn Ngogledd Cymru. Nid oedd cymaint ag un long yn cael ei hadeiladu yno yn awr. Nid yw eglwys Pont—yr—ynys—galch wedi gwneyd mwy na chadw rhag gwanychu.
Pwllheli a Tyddyn Shon.—Nid yw eglwys y Pwll mor golofnol a chynt. Tyddyn Shon yn wanach wedi corphoriad eglwys Llithfaen. Bum yn siarad a chwaer Mrs. Williams, priod y Parch. W. J. Williams, Girard, O., yr hon sydd yn byw yn nhy capel Tyddyn Shon. Mae eglwys Llanaelhaiarn mewn capel da. Galwas-