PENOD III.
Yn Lerpwl a Sir Gaernarfon.
Wedi nesâu yn ostyngedig yn yr agerfad bychan ar waelod yr afon at y dref bendefigaidd, cawsom laniad dyrchafedig. Yn y tolldy, yr oedd pawb yn siriol. Llygaid perthynasau a nofient mewn dagrau. Estroniaid amryw yn ymryson am ein lletya a chario ein luggage. Ymostyngai y landing-stage i'n derbyn.
Y fath olwg ddyeithrol, a bron dramorol, a gaem ar Lerpwl. Edrychai pethau yn henafol, eto yn gadarn. Llenwid yr heolydd hyd yr ymylon gan lifeiriant masnach. Gwageni olwyn-lydain, yn cael eu tynu yn arafaidd gan feirch cydfaint. Myrdd o gerbydau yn chwyrnellu trwy eu gilydd. Gruddiau y tai yn edrych yn dywyll, eto yn iachus. Bodau dynol amryfath, rhai yn wyllt a rhai yn ddof; rhai yn gyfan-drwsiadus, ac eraill yn anghyfan drwsiadus; rhai yn cario gwynebau gwridgoch, eraill heb ond y rhan flaenaf o'r gwyneb felly. Rhai yn cardota, eraill yn cyfranu; rhai yn canu, eraill yn brudd. Lluaws yn rhedeg ar ol y byd, a lluaws wedi rhoi fyny yr ymdrech. Rhai yn gwneyd cil-olygon ar yr heddgeidwaid, eraill heb ystyried gwyr felly yn deilwng o sylw. Rhai yn dwyn arnynt olion tymestloedd, eraill mor ddysgleirwych a dodrefn caboledig yn dyfod gyntaf o'r siop. Amryw yn meddu nôd, ac amryw heb gysgod un; ond pawb yn ddieithriad yn cyd-symud o'r presenol i'r dyfodol.
Mae heolydd Lerpwl yn yr haf yn dryfrith o Americaniaid; ac O! mor hyfryd ydyw cyfarfod â hwynt.