awol gan y Parch. John Davies, Bootle; Lector, a chan chwiorydd tirion, dwy a'n canlynent o Gymru, a'r llall sydd yn byw yn y dref, yn nghyd a lluaws o berthynasau a chyfeillion eraill. Bechgyn rhagorol fy chwaer Margaret fuont hynod o garedig o'r dechreu i'r diwedd. Cychwynasom ar y City of Chester Mehefin 8, a glaniasom yn ddiogel ac iach yn New York, Meh. 19, 1886. Cyfansoddais yr englynion canlynol ar y môr, y rhai a ddangosant fy nheimladau wrth ddychwelyd:
Rhyw bêr egwyl, er braw eigion,—a gaf
I gofio cyfeillion;
Ceisiaf wneyd miwsig cyson;
Mae siawns gyda dawns y don.
Y tonau tew ewynant—i'r nef-gylch
Ac o ogylch gwgant;
Yn lluwch y trosom lluchiant,
O deuwn i waelod nant.
Rhoi aml nâd am dad y dydd y mae'r môr
Murmurawl aflonydd;
A'i brudd-der am y ser sydd
Yn drech na'r un edrychydd.
A lliwir ymaith y lleuad—gan len
Ganlyna ei llwybriad;
A mawr yw y môr ruad
Am achles cyfeilles fad.
Y storom anystyriol—a thyrfau
Ei therfysg elfenol,
Gyflawna 'r gwaith anrhaithol,
Gwelir hyn yn glir o'i hol.
Yn ddi-ernes aeth oddiarno—'u hanwyl
Arluniau roed iddo;
Y medals wedi 'mado,
Fu'n ser ar ei fynwes o.
Wel fôr, gwn dy leferydd—a hefyd
Wylofaiu dy stormydd;
Adwaen swn dy donau sydd,
A'u bronau hyd wybrenydd.