Calfinaidd." Gallesid barnu oddiwrth yr ysgrifau dwy-ieithawg yna fod dau enwad gwahanol yn perchen y capel.
Ni allasai dim ond rhwymedigaethau y Sabboth a nodwyd fy nghadw am wythnos rhag myned yn mlaen i Gymru. Ac yn foreu ddydd Llun yr oeddwn yn y trên yn cyflymu tuag Eifionydd, rhanbarth fy ngenedigaeth, ac anerchwn yr awen, gan ddweyd gyda "Hiraethog":
"O Lynlleifiad llawn llafur,
Awen bach i Eifion bur,
Dianc yn ddystaw dawel
O dre' y mwg i dir mêl,
A chai yno iach anadl
Wych o hyd yn lle tawch hadl
O hagr swn a chlegr y Sais,
Crochlef y Gwyddel crychlais,
A'r Ysgotyn tordyn tew,
Crintach ystyfnig crintew.
Ymorol-cai ymwared
Yn chwai, chwai! hai, hai! ehêd.'
Cyrhaeddasom Gymru hoff o'r diwedd. Yn awr yr oeddym fel teulu yn Sir Gaernarfon—y Sir dalaf o holl Siroedd clodadwy Cymru a Lloegr; bydded y mynyddoedd yn dystion. A barnu y Sir hon oddiar safle fasnachol—y safle oreu i farnu unrhyw ran o wlad-saif yn mhlith Siroedd blaenaf y Dywysogaeth, ac yn y fasnach lechi saif y flaenaf.
Chwarelau Sir Gaernarfon yw canolbwynt masnach lechol y byd, ac o guriad calon y fasnach hon yma y y lluchir bywyd i holl ranau corph anferthol y fasnach yn agos ac yn mhell. O'i chwarelau hi y cloddir llechi