Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gysgoda dai filoedd lawer o blant Adda rhag gwlaw ac eira, rhuthrwyntoedd a stormydd gauafol yn mhob gwlad wareiddiedig o dan haul y nef. O'i chreig hi y cludir defnyddiau palmantau heolydd prif ddinasoedd y deyrnas gyfunol.

Eto, fel canolbwynt haf bleser-fanau (summer resorts), mae yn fyd-glodus Wele rai o'i phleser-fanau: Llandudno, Colwyn Bay, Colwyn, Llanrwst, Trefriw, Conwy, Penmaenmawr, Llanfair-fechan, Bangor, Bethesda, Pont-y-borth, Caernarfon, Llanberis, Bettws-y-coed, yr Wyddfa, Beddgelert, Portmadog, Criccieth, Pwllheli. I'r lleoedd hyn y cyrcha tyrfaoedd o bendefigion a seneddwyr, o wyr llen a gwyr lleyg, o farsiandwyr a chelfyddydwyr, o feistriaid y celfau a'r gwyddorau, o bendefigesau a boneddigesau ieuainc a hen. Ymfwriant iddynt, meddaf, yn finteioedd di-rif, yn mron, o Loegr, y Cyfandir, a gwledydd pellenig eraill, er adgyflenwi adnoddau corphorol treuliedig, a lloni ysbrydoedd pruddglwyfus.

Bydd y personau hyn oll yn meddu eu dewis-fanau yn mhlith y lleoedd a nodwyd. Prif bleserfan dosbarth lluosog yw Llandudno. Una y lle hwn ynddo ei hun y mwynianau canlynol: Ymdrochle penigamp, golygfeydd rhamantus, a difyrion cymdeithasol swynol. Y mae Colwyn Bay a Llanfair-fechan yn rhestru yn uchel. Arfera y golygfeydd mynyddig ad-dynu tyrfaoedd mawrion. "Pen y Wyddfa " ydyw eithafnod uchelgais llaweroedd. Yn gyffredin ymffurfir yn fintai gryno, a chychwynir o'r gwaelod y nos flaenorol, er cyrhaedd y copa uchelfrig yn ddigon boreu dranoeth er cael gweled yr haul yn codi, ac i dremio ar y golygfeydd am-