Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydd rhyw olygfa arbenig yn tynu sylw-cymer yr arlunydd ei eisteddle, cipdrema ar yr ologfa, a chyda ei len, ei bwyntel a'i liwiau, gwna ddarlun harddwych, nes byddo y preswylydd mynyddig, wrth graffu dros ysgwydd yr arlunydd, yn synu at brydferthwch y darlun, pan na welai ronyn o brydferthwch yn yr olygfa ei hunan.

Cawsom fwyniant nid bychan droion wrth weled ambell ymwelydd wedi ymddilladu i hynt fynyddig—ei edrychiad yn arw, ei fasged yn crogi wrth ei ysgwyddau, ei het yn dolciog dywysogaidd, ei lodrau yn terfynu ar y pen-glin, a'r esgidiau yn cyfarfod â'r llodrau yn y man penodol hwnw. Wrth iddo ddychwelyd o'r hynt fynyddig, byddai y nodweddau a nodwyd yn fwy eglur ar ei ddynsawd.

Gwrthddrychau o ddyddordeb i ymwelwyr yw yr hen gestyll, o ba rai y mae Sir Gaernarfon yn gyfoethog. Heblaw fod y cestyll henafol hyn yn hawlio sylw fel gorchestion celfyddyd, y maent yn hawlio sylw hefyd fel ceryg milldir i fesur camrau gwareiddiad. Mae aml i wr pen-uchel yn gorfod codi ei ben i fyny a thynhau llinynau ei ên wrth dremio arnynt; ond mae yr hen gestyll yn llawn haeddu yr holl foes-drem.

Criccieth sydd yn prysur ddyfod yn brif gyrchfan ymwelwyr. Bu dyfodiad y reilffordd trwy y lle yn adgyfodiad i fywyd iddo. Yn y dyfodol agos y mae yn debyg o fod yn un o'r lleoedd enwocaf fel ymdorchle yn y Sir.

Byr yw y tymor haf-bleserol. Pan gyrhaeddais Gymru, yn nechreu Medi, ymadawsai lluaws o'r ymwelwyr; eto yr oedd niferoedd i'w gweled ar lanau y môr