a manau eraill, fel yn hwyrfrydig i fyned ymaith. Caraswn gael trem ar y tymor ymweliadol pan ar ei uchelfanau.
Wrth adolygu Sir Gaernarfon fel magwrfan gwyr o fri, nid yw yn llai nodedig. Dyma y Sir a fagodd bregethwyr fel John Jones, Tal-y-sarn, a Robert Jones, Llanllyfni; beirdd fel Dewi Wyn o Eifion, Eben Fardd, R. Ab Gwilym Ddu, Ioan Madog, Pedr Fardd, ac Alltud Eifion; hynafiaethwyr fel Ellis Owen, Cefnmeusydd, ac Owen Williams, Waenfawr; ieithyddwr fel Richard Jones Aberdaron.
Os gofynir am yr achosion a wna y Sir hon yn fath fagwrfan talentau mawrion, gellir ateb trwy geisio gan yr ymofynydd edrych oddiamgylch ar y golygfeydd rhamantus a geir ynddi yn llawn, a gwrando ar y beroriaeth felusfwyn a ddadseinir gan yr adar, y rhaiadrau, a'r awelon. Ceisier ganddo yn mhellach sylwi ar yr amrywiaethau cain yn fôr a mynydd, yn greigiau serth a dolydd têg; yn llwyni llydain a dyffrynoedd breision a ymledant o'i flaen.
Treuliwyd y tair wythnos gyntaf i alw mewn manau cylchynol; i weled perthynasau a chyfeillion, ac i dremio ar olygfeydd boreu oes. Hyfwyn oedd y dyddiau hyny. Wrth syllu ar gyffiniau y fro, dywedwn:
"Mor wyrdd lan, mor hardd eleni,
Yw tir a môr i m trem i.”
Cyfarchiadau anwylion chwareuent yn dyner ar danau ein calon. Ni chyfarfyddid ag un gornel arw i beri briw. Yr oedd pob gwyneb yn arwyddo serch, yr hyn a barai i'n teimladau fod yn lleddf. Yr oedd llariaidd