Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyn awelon yr hen ardal yn chwareu yn dyner â chydynau fy ngwallt, ac yn chwythu yn fywiol fwyn ar fy wyneb. Tybiwn fod peroriaeth sisial dwfr yr afonydd, a chathlau mêl yr adar mân ar y brysglwyni, yn cyduno i fy llongyfarch. Dysgwyliaswn, braidd, fawl gan yr adar, canys yr oeddwn pan yn fachgenyn, yn gyfaill calon i'w henafiaid; ac ni thynais nyth un o honynt erioed, yr hyn a wnaethid yn aml gan blant y gymydogaeth, er fy ngofid. Hefyd, dychmygwn fod y mynyddoedd amgylchynol yn edrych dros ysgwyddau eu gilydd i gael trem ar yr hwn, pan yn ieuanc, oedd mor hoff o honynt, ac mor aml a edmygai eu harddwch; oedd yn awr, ar ol blynyddau o absenoldeb, wedi dod ar ymweliad i'w hen gymydogaeth, yn edrych yn bur weddgar, ac yn teimlo yn bur galonogol. Nid oedd y Werydd henafol a gofleidiai lanau fy ngenedigol fro ar ol, ychwaith, mewn dangos hawddgarwch i mi, canys yr oedd plethiadau gwên hyfryd dros ei gwyneb. Ac ychwanegaf, credwn fod coed y maes yn curo dwylaw ar fy nyfodiad i'w plith, Yn awr cofiwn eiriau y Salmydd, "Iraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn."

Pan yn dynesu at ffiniau yr hen gartref, gwelwn mewn maes cyfagos, ddyn yn gwneyd cil-edrychiad, ac fel yn dyfalu pwy allasai y gwr dyeithr hwn, a'i gwmni, fod; a gofynwn iddo, er mwyn boddhau ei gywreinrwydd, "a oedd y ffordd hono yn arwain at Tan-y-braich ?” "Ydyw, siwr," ebe yntau. Ac ni thorwyd llinyn yr ymddyddan am ddeng mynyd llawn, o herwydd hen gyfaill ydoedd i'n teulu ni—"Shôn Owen, y teiliwr."

Trwm oedd myned dros riniog drws Tan-y-braich, heb dad na mam yno er's llawer blwyddyn; eto nyni a