dderbyniwyd yn garedig gan lysfam dirion a brawd hawddgar.
Nid hir y bu hen gymydogion a hen lwybrau cyn i mi alw heibio iddynt; er efallai nad oedd llawer o ddiolch i mi am y brys hwn, canys yr oedd atdyniadau y gwrthrychau yn rhy gryfion i mi allu dal yn hir i'w gwrthsefyll, pe yn ceisio.
Arsyllfa ardderchog i gael golwg eang o'r gymydogaeth a'r cylchoedd, ydyw copa dyrchafedig "Craig-yGarn." Talodd prydferthwch y golygfeydd yn dda i mi a'm cwmni am y l'afur o ddringo llechweddau serth y graig. Gallaswn ganu yno, a dweyd:
"Tanwyf mae dolydd tyner—llwyni teg,
Yn llawn twf ac îrder;
Mynyddoedd luoedd lawer,
O'm deutu'n cusanu 'r sêr."
Os cynydda Criccieth fel ymdrochle, daw "Craig-yGarn" i fwy o fri.
Gan fy mod yn awr yn ysgrifenu am ardal glodwiw fy ngenedigaeth, esgusoder fi am fanylu ychydig.
Garn Dolbenmaen sydd ardal ddestlus, oddeutu dwy filldir o draws-fesur, yn cynwys niferoedd o fân anedddai tlysion, gyda gerddi bychain iddynt. Mae arwynebedd y tir ar ba un y gorwedda, yn ymddyrchol, ac yn gogwyddo i'r dehau a'r môr. Fel rheol, mae y bobl yn arwain bywyd gwerinawl, moesol a chrefyddol. Yn eu hamgylchiadau, maent yn bur gysurus; tra anfynych. y clywir am neb yn dyoddef angen yn eu plith. Adnabyddir pob ty yn yr ardal wrth enw penodol, er engraifft: Bytwian, Gareg Gron, Lôn-lâs, Mur-cwymp, Llidiart Mawr, Lôn-y-gert, Frongoch, Tan-y-braich, y