Rwdan, Braich-y-rhaib, Ty'n-y-cae, Garnedd Wen. A dyma sydd yn hynod, fod yr enwau hyn ac eraill, yn ymddangos rywfodd mor briodol i'r tai a ddynodant. Mae yr enw Bytwian, fel yn ffitio yn gywir i dy Bytwian; a'r un modd yr enwau yn gyffredinol. Eto, credwyf fod yr enwau hyn a'u cyffelyb, yn dwyn delw teithi meddyliol yr hen bobl ragorol a'u cyfansoddent. (Yr ydym yn dweyd hen bobl, oblegid y mae y tai a'r enwau yn hên agos oll.) Delw yr enwau, yn ychwanegol at eu cyfadddasrwydd, a gyfrif yn ddiau i raddau tra helaeth, am y melodedd patriarchaidd a nodwedda eu hynganiad.
Y fath gyfnewidiadau dirfawr y mae deugain mlynedd wedi wneyd ar y boblogaeth. Yr hen batriarchiaid a'r gwyr cryfion gynt nid y'nt yno mwyach; a'r teuluoedd lluosog wedi eu gwasgaru ymaith! cenedlaeth newydd yn mron yn llenwi yr ardal. Y fath esboniad pruddaidd yw y fynwent ar y cyfnewidiadau. Ar ymweliad a mynwent y gymydogaeth, sibrydais:
"Mae degau o'm cym'dogion
A'u tai yn y fynwent hon,
A mi 'n ieuanc, mwynheais,
Ag aidd llon eu gwedd a'u llais;
Ond O! y modd, dyma hwy,
Isod, ar dde ac aswy,
Yn fudion lwch-hanfodau,
A neb o'n hen yn bywhau.
Buoch bobl a baich y byd,
Ar eich gwarau uwch gweryd;
Ond wele 'n awr, delw neb,
Ni ymwahana i'm wyneb.
Cysgwch, cysgwch, lwch y wlad,
Hyd foreu eich adferiad.
Eich Duw yn unig a'ch deall,
Yn y bedd, y naill a'r llall."