Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ugain mlynedd yn ol, ail-adeiladwyd y capel, yr hyn a droes yn fantais werthfawr i'r achos Bedyddiedig yn y lle. Ychydig o'r aelodau ddeugain mlynedd yn ol, pan fedyddiwyd fi, sydd yno yn bresenol. Ar fy ymweliad, ychydig a adnabyddwn. Pregethais i'r gynulleidfa ddau Sabboth, er mwyniant hiraethlawn i mi, a gobeithiwyf, er cysur a lles iddynt hwythau.

PENOD IV.

Yn y Deheuḍir

Ar y daith o'r Gogledd i'r Deheudir, yr oeddwn yn myned trwy ganolbarth Cymru. Yn ngorsaf gysylltiol llinell Corwen, ar y Cambrian, chwe' blynedd yn ol, y gwelais Gwilym Hiraethog ddiweddaf. Y pryd hwnw, cyd-deithaswn ag ef o gyfeiriad y Bala i'r orsaf hono. Eisteddwn ar y sedd gyferbyniol iddo, ac ymddyddanai yntau a mi yn rhydd a naturiol, gan roddi pwys ei ddwylaw ar ben ei ffon. Yn mhlith pethau eraill, cofiaf iddo ddweyd, "Dau ddyn rhyfedd ydyw Beaconsfield a Mr. Gladstone. Mae Beaconsfield yn wr mawr uchel-geisiol anghyffredin; ond am Mr. Gladstone, y mae efe yn ddyn cywir a hunan-ymwadol iawn; yn ddyn a lles ei wlad a'i gyd-ddynion yn benaf ganddo mewn golwg, ac yn mhob peth a wnêl! Ac y mae y gwrth-gyferbyniad rhyngddynt yn rhyfedd, y ddau yn byw yn yr un oes, yn gwasanaethu yr un wlad, yn dal swyddi uchel yn olynol, ac yn meddu safleoedd cyffelyb,