Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac eto mor wahanol i'w gilydd." Addawswn wrtho i alw heibio iddo yn Nghaer, wrth ddychwelydi America, ond fe'm lluddiwyd; ac ar ol cyrhaedd adref anfonais ymddiheuriad; yntau atebodd gan ddweyd fod yr ymddygiad yn hollol faddeuadwy, yn gymaint a bod llawer o bethau nas gellir eu rhag-weled ar adeg felly, yn cyfryngu ac yn achosi toriad cynlluniau.

Wrth fyned trwy gymydogaeth Llanbrynmair, cefais foddhad i'm chwilfrydedd, drwy gael cipolwg ar hen gapel y ddau frawd, J. R., ac S. R.

Mae y parthau canolog hyn o Gymru, yn gwneyd eu rhan yn dda er hawlio iddi yr enw o Wyllt Walia.

Yn Llanidloes, arosais i orphwyso noswaith, a rhan o ddau ddiwrnod. Y mae Llanidloes yn dref dlws, ac o gryn bwysigrwydd masnachol. Mae iddi safle ddymunol, mewn dyffryn hardd, yn cael ei ymylu o bob tu gan fryniau prydferth. Rhaid fod y fath olygfeydd dillyn, yn ymdaenedig felly ar hyd ochrau y cylchoedd, yn meddu dylanwad diwylliol anghyffredin ar feddyliau trigolion y dref.

Y diwrnod yr oeddwn yn ymadael, yr oedd yno ffair -ffair ddefaid gallaswn feddwl-oblegid y creaduriaid diniwed hyny oeddynt y gwrthrychau marchnadol mwyaf amlwg a lluosog. Digrif dros ben oedd gweled pobl y defaid mewn helbul fugeiliol gyda'r eiddynt, yn ceisio eu cadw rhag myned ar ddisberod, a chymysgu â defaid estronol. Yn y cynyrfiadau gwerthiadol, yr oedd y defaid druain yn cynyrfu, a beth oedd yn fwy naturiol iddynt, wrth glywed areithyddiaeth y prynu a'r gwerthu, yn gweled eu hunain mewn lle dyeithr, hiraeth am gartref, ac efallai y cylla yn wâg. Pa ryfedd eu bod yn