Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anesmwyth! Gallesid tybied weithiau fodd bynag, fod ambell i ddafad ddireidus yn gwneyd mwstwr, ac yn gwneyd cynyg i ddianc fel o bwrpas i beri mwyniant iddi ei hun ac eraill, wrth weled digrif-ddyn yn carlamu i'w chael yn ol. Weithiau yr oedd yn rhedegfa erwin a chymalog. Pan y byddai amryw o grwydriadau rhedegfaol fel hyn yn dygwydd yr un adeg, yr oedd yr olygfa yn ddrama-yddol. Yr oedd brefiadau cyffredinol y defaid mân yn peri i'r teimladau llon a gynyrchai y rhedegfeydd a nodwyd, gilio o'r ffordd yn fuan, i roddi lle i deimladau mwy lleddf a chydymdeimladol.

Mae gan y Bedyddwyr yma eglwys gref a llewyrchus, a chapel cyfleus. Y gweinidog yw y Parch. J. Griffiths, mab i'r diweddar Barch. Jeremiah Griffiths, Ashland, Pa., yr hwn sydd frawd rhagorol, ac yn rhestru gyda y blaenaf yn mhlith gweinidogion ieuanc yr enwad yn y Dywysogaeth.

Wrth symud yn mlaen tua chyffiniau hyfryd Brycheiniog, yr oedd golwg y wlad yn gwella eto. Anhawdd dyfalu pa fodd y gallasai unrhyw wlad edrych yn fwy pryderth.

Yn fuan, cefais olygfeydd gwahanol. Yn y gerbydres yr elwn ynddi o Bontypridd i Lantrisant, nos Sadwrn, yr oedd mwnwr hoenus yn eistedd gerllaw i mi. Yn gyferbyniol iddo, eisteddai dyn syn yr olwg arno. Nid hir y bu y mwnwr hoenus heb anerch y dyn syn, ond ni wnai y syn un sylw o hono. Yntau, yr hoenus, mewn trefn i weithredu yn effeithiolach ar y syn, a ddefnyddiai eiriau digrifion, gan gyfaddasu ei ystum, ei lais, ei wedd a'i ddwylaw i natur ei areithyddiaeth berswadiol. Peidiai a hyn am fynydyn weithiau, er cael gweled,