mae yn debyg, a oedd yr oruchwyliaeth yn cyrhaedd ei hamcan ar y syn a'i peidio. Y dyn syn arwyddai annghymeradwyaeth geryddol, ac yn yr orsaf gyntaf aeth allan ar ffrwst, yn llawn trydaniaeth digofus, gan ffromi yn aruthr yn erbyn gweithrediadau yr hoenus. Gyda ei fod allan, dyma ddyn sarug yr olwg arno yn cymeryd ei le. Yr hoenus a anerchai hwn yn fwy egniol, ysmiciau o'i flaen, ond y sarug elai yn fwy sarug, a phan yr aeth ef allan yn yr orsaf nesaf, prysurodd i chwilio am wr a chôt dyn am dano; ac erbyn i hwnw gyrhaedd, yr oedd y mwnwr hoenus wedi myned adref.
Mae yr achos Bedyddiedig yn Llantrisant wedi dechreu yn foreu, ac y mae golwg henafol ar y capel. Treuliais Sabboth cysurus gyda y frawdoliaeth yno. Ymddangosai yr eglwys mewn cyflwr llewyrchus a llwyddianus.
Yn Hydref, 1885, cefais y pleser o fod yn nghyfarfodydd mawrion Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon, yn Abertawe. Y mae gan yr Undeb hwn gyfarfodydd ddwywaith yn y flwyddyn, y rhai blaenaf a'r mwyaf pwysig, yn cael eu cynal yn y Brif-ddinas yn mis Mai, a'r rhai eraill yn cael eu cynal mewn trefydd yn ngwahanol barthau y wlad yn mis Hydref. Ni fum mewn gwell cyfarfodydd o'r natur hyn erioed o'r blaen. Yr oedd pethau o'r pwys mwyaf i'r wlad a'r enwad yn cael eu trafod ynddynt. asiwyd penderfyniadau cefnogol i'r blaid Ryddfrydol gyda brwdfrydedd mawr. Yr oedd crybwyll enw Mr. Gladstone yn creu y brwdfrydedd mwyaf. Traddododd y Parch. Evan Thomas, Casnewydd, anerchiad rhagorol ar yr ysgol Sabbothol. Fel prawf o'r daioni wnaeth yr ysgol