Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sul yn Nghymru, nododd bersonau teilwng, ydynt yn awr yn genadon mewn gwahanol wledydd pellenig, a fagwyd ar fronau yr ysgol Sabbothol yn Nghymru. Y Genadaeth Dramor sydd yn cael y sylw mwyaf yn y cyfarfodydd hyn. Mae y Bedyddwyr yn gwneyd gwasanaeth dirfawr i'r byd yn y cyfeiriad hwn. Nid oedd cyllid blynyddol y Gymdeithas y flwyddyn ddiweddaf yn llai nag wyth mil a thriugain o bunau. Anhawdd sylweddoli i raddau dyladwy y daioni a wneir gan y gymdeithas hon. Mae ganddi genadon yn bresenol ar y Congo, India, Burmah, Itali a manau eraill. Cofier mae nid yr un yw yr Undeb hwn ag Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae hwn yn cynwys yr holl Deyrnas Gyfunol.

Ystyriwn mai gwaith da a bendithiol i Gymru a Lloegr, ydyw fod y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynal yn eu tro, yn Nghymru. Trwy hyn ca y Cymry fantais i ddysgu gweithgarwch a threfn oddiwrth y Saeson, a'r Saeson, o'r ochr arall, fantais i ddysgu brwdfrydedd a sêl oddiwrth y Cymry. Yr oedd yn hawdd canfod fod y Bedyddwyr Cymreig yn teimlo dyddordeb neillduol yn ngweithrediadau yr Undeb yn Abertawe, canys yr oeddynt wedi dyfod yno, yn weinidogion a lleygwyr, o bob cyfeiriad; ystyriwn hyn yn arwydd da, canys arddengys fod dyddordeb yn cael ei deimlo gan Fedyddwyr Cymru mewn pethau sylweddol, efengylaidd, a gwareiddiad crefyddol y byd. Rhaid fod effeithiau daionus yn canlyn gweithrediadau yr Undeb. Rhaid fod argraffiadau da yn cael eu cario ar led i bob cwr o'r deyrnas. Ni chanfyddais fwy o ddeheurwydd a sêl erioed o'r blaen. Anogwyd mwy o weithgarwch ac hunan-aberth er mwyn achos y Gwaredwr, yn y fath