fodd ag oedd yn cydio ynom. Teimlem fod enwad y Bedyddwyr yn allu mawr iawn yn y Deyrnas Gyfunol. Yr oedd y personau cyfrifol, yn Seneddwyr ac eraill o fri, a lywyddent yn y cyfarfodydd-y caredigrwydd a'r parch a ddangosid i ddyeithriaid yn Abertawe, yn gystal a phethau eraill, yn brawfion diymwad o safle uchel yr enwad yn y wlad.
Gofynai y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd, i mi ar yr esgynlawr un hwyr, pan oedd yr Albert Hall yn orlawn, a fedrem ni ddangos rhywbeth cyffelyb yn America; a meiddiais ddweyd y gallwn. A gallwch fy nghredu, meddwn, pan gofiwch fod yr enwad Bedyddiedig yn America yn rhifo dwy filiwn a haner o aelodau. Mae yr enwad yn Lloegr a Chymru, gellid barnu, yn ddiamheuol mewn sefyllfa tra iachusol. Yr oedd golwg gyfrifol a pharchus neillduol ar y gweinidogion ieuainc oeddynt yn bresenol. Mae cymeriad gweinidogaethol yn cael ei godi yn gyflym i safle uwch na'r dyddiau gynt.
Cynaliwyd cyfarfod lluosog un prydnawn gan y Bedyddwyr Cymreig, i ystyried mater yr athrofeydd. Mae cyfnewidiadau pwysig ar gymeryd lle yn y cyfeiriad hwn, Eisoes mae myfyrwyr Bedyddiedig Cymreig mhrif ysgolion Bangor a Chaerdydd, a bydd ychwaneg yn eu dilyn yn fuan. Bydd hyn yn gwneyd tri choleg, meddir, yn ddiangenrhaid. Y bwriad presenol yw uno Athrofeydd Pontypool a Llangollen[1] mewn man cyfleus yn y Deheu, megys Caerdydd neu Abertawe, a gadael Athrofa Llangollen yn llonydd. Er hyny, mae llawer o'r dynion goreu yn barnu y byddai gadael yr athrofeydd fel y maent am dymor, beth bynag, yn well. Dealled y darllenydd mai y bwriad yw anfon yr holl
- ↑ Diawl y wasg—Athrofa'r Bedyddwyr, Hwlffordd a bwriadwyd i uno efo Athrofa Pontypŵl