yfyrwyr i'r prif-ysgolion i Gaerdydd, Aberystwyth neu Bangor, i dderbyn addysg glasurol, ac ar ddiwedd yr addysgiaeth hono, i'w hanfon iathrofa dduwinyddol am dymor, i gwblhau eu dysgeidiaeth. Mae yn eithaf posibl y bydd cryn gynwrf yn yr enwad cyn y penderfynir y mater.
Bum yn cyd-deithio ag un o barsoniaid eglwys Loegr, adeg yr etholiad, ger Maesteg, Morganwg. Eisteddai ef gyferbyn a mi yn y gerbydres, ac eisteddai un boneddwr arall wrth ei ochr, nad oedd yn Eglwyswr. Cymerais fy rhyddid i ddweyd y drefn yn go hallt wrtho pan y daeth hyny yn gyfleus yn nghwrs yr ymddyddan. Dywedais wrtho rywbeth yn debyg i hyn: "Gellwch benderfynu fod cyfnewidiadau gwladyddol pwysig i gymeryd lle yn fuan yn y deyrnas hon. Bydd y tiroedd yn dyfod i feddiant y werin-yr eglwys yn cael ei dadgysylltu a'i dadwaddoli, ac efallai, cyn hir, y Frenines neu y Brenin, a'r holl dylwyth cysylltiedig, yn cael eu troi o'r neilldu. Pa reswm, meddwn, fod y fath symiau o arian y wlad yn myned i bersonau nad ydynt yn gwneyd un gwasanaeth i'r wlad am danynt? Pa degwch sydd fod y tiroedd, mewn gwlad mor fechan a Phrydain, yn meddiant rhyw ychydig nifer o bersonau? Mae yn anmhosibl i bethau barhau fel y maent yn hir. Os na wna y Parliament fesurau diwygiad, cyfyd y bobl mewn gwrthryfel." Yr oedd gwyneb yr hen barson yn ymliwio wrth glywed pethau fel yna. Cofier fy mod yn dweyd y drefn yn selog, teimladwy a thanbaid wrtho, ac eto yn sobr a hunan-feddianol; a chredaf fy mod yn dweyd y gwir wrtho.