PENOD V.
Rhagoriaethau Nacaol Cymru.
Un o brif ragoriaethau nacaol Cymru yw bod yn rhydd oddiwrth anffyddiaeth. Yn Lloegr a'r Cyfandir, y mae y drythyll yn taflu ei gysgodion tywyll dros lawer meddwl dysglaer. Y mae hyn i'w briodoli, i raddau helaeth, i ddylanwad niweidiol Tom Paine, Voltaire, ac eraill o'r un dosbarth.
Voltaire oedd hwn, fel tarw—uffernol
A ffyrnig am fwrw;
A'i gyrn lawr—gair Ion a'i lw,
A byd arall heb dwrw.
Tom Paine geid y mwya' pôr—o'r holl lu,
Oedd i'r lleng yn flaenor;
Ddenai ei hil fil i for-annuw hâint,
Yn ail y genfaint i fol eigionfôr.
Ond ychydig, os dim, o'u dylanwad gwenwynig gyrhaeddodd Gymru.
Nid oes yn Nghymru anffyddiaeth. Pe byddai ambell un yn mhlith y genedl yn cael ei nodi allan, fel yn tueddu i'r cyfeiriad amheugar, byddai un felly yn eithriad. Mae y Cymry, fel cenedl, yn lân oddiwrth y drwg hwn. Nid oes llenyddiaeth anffyddol yn y wlad. Ni adwaenir yno awdwr anffyddol. Ni welir sill o hysbysiad anffyddol yn y papyrau. Am hyny, ni cheir y bobl yn ymbalfalu yn y tywyllwch am achos mawr gwreiddiol y greadigaeth; nac yn y boen ar ansefydlogrwydd sydd yn canlyn hyny. Ni welir yno sarnu