Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau cysegredig, na thynu lawr yr ysbrydol er ceisio dyrchafu y materol. Nid yw y llinell rhwng drwg a da yn aneglur. Nid oes yno awelon gau ddysgeidiaeth o bell yn gwywo blodau rhinwedd. Er mor orlifol anffyddiaeth mawr gwledydd cyfagos, mae dylanwad crediniol Cymru yn rhy gryf iddo; ac er iddo ymfwrw yn donau hyrddiol yn erbyn Clawdd Offa, ni ddaw yn mhellach.

Nid oes gan Babyddiaeth etifeddiaeth yn Nghymru. Y Babaeth, yr hon grefydd sydd mor boblogaidd yn Ffrainc, Germani, a bron yn holl wledydd y Cyfandir, y mae yn wrthodedig yn Nghymru. Methodd y llifeiriant Pabyddol ruthro dros y rhandir neillduol hwn. Methodd y ddrychiolaeth frith-wisgol gael gan yr hen genedl i'w mynwesu. Methodd y lledrith hûd-ddenu. Cofier ymdrech ofer Awstin Fynach.

Nid yw y tafarnau yn agored ar y Sabbothau yn Nghymru. Yn erbyn y drwg câs, fu yn gwneyd y fath niwed i grefydd a moesau, y mae y drysau wedi eu cau. Ni chaniateir iddo mwyach ddyfod i barlwr yr wythnos. Y drwg o yfed gwirodydd a gwlybyroedd meddwol eraill sydd yn ffynu yn barhaus yn Lloegr, a Sir Fynwy, ar y Sabboth, gedwir draw o Walia gyda braich gref, ac a llaw estynedig. Nid yw y diodydd peryglus yn boddi eneidiau dynion ar y dydd i fyned i'r arch. Ni chaiff y dydd cyntaf o'r wythnos fod yn ddydd olaf ei foesau. Ni cha y dydd y cyfododd Gwaredwr dyn o'r bedd, ei ddathlu a rhialtwch y cwpan meddwol. Ac nid dyna y cwbl. Y mae cadwraeth y Sabboth mewn ystyron eraill, mewn bri yn y Dywysogaeth. Y mae pleser-deithio ar y Sabboth yn beth an-