Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hysbys yn y wlad. Ni wneir arddangosiadau o angladdau, ac ni welir angladdau yno ar ddydd yr Arglwydd. Nid yw gwresogrwydd addoliadau crefyddol yn cael ei oeri ar y dydd Sabboth drwy daflu brwdfrydedd addoli i gyrddau practiso erbyn dydd yr Eisteddfod. Yn "nglwad y bryniau" ni welir neb yn myned allan i hela, nac i ddilyn unrhyw bleser-chwareuon ar y dydd sanctaidd.

Anaml y cyflawnir llofruddiaeth yn Nghymru. Peth tra anfynych ydyw fod Cymro o waed coch cyfan yn cael ei arwain i'r crogbren; a phan y dygwydd hyny, bydd arswyd yn cerdded trwy y genedl. O herwydd paham nid yw y bobl yn ofnus o'u gilydd yn yr ystyr hwn. Hyd yn nod pan yr adnabyddir person yn euog o ddrygau cyhoeddus eraill, ni amheuir ef fel yn meddu tuedd at lofruddiaeth. A hyn sydd yn cyfrif am garcharau gweigion amryw o'r Siroedd yn aml, ac am fenyg gwynion y barnwyr.

Ni cheir llawer camwri gwladwriaethol a pholiticaidd gwledydd gwareiddiedig eraill yn "ngwlad y gân.” Nid cyfreithiau mewn enw a geir yn y wlad, ond rhai mewn ysbryd a gwirionedd. Llwgrwobrwyaeth ni arferir yn y wlad. Y mae Seneddwyr Cymru yn annhraethol uwchlaw gwerth y pris hwnw. Yn wir y mae beiau o'r fath yn hollol ddyeithr i'r swydd urddasol. Yn ngweinyddiad y gyfraith drachefn, nid digon miloedd o aur melyn i agor y drws i droseddwyr ddianc o grafangau y llew.

Y mae Cymru yn rhydd oddiwrth lu o lwgr-feiau ac arferion cymdeithasol gwledydd eraill, heb eithrio Lloegr. Mae rhedegfeydd ceffylau, hap-chwareuon,