chwareudai, a phethau o'r un natur, yn groes i chwaeth ac anianawd y genedl Gymreig. Nid yw yr enwau cysegredig tad a mam wedi eu llygru yn y fam-iaith.
Yn Nghymru, ni raid i wr dyeithr ymostwng i lanhau ei esgidiau (braint werthfawr), nac i waseiddio ei hun i wneyd dim o'r natur. Gellir bod yn sicr y bydd yr esgidiau gerllaw, yn lân ac yn loew yn y boreu. Ni bydd galwad chwaith am godi yn gymwys gyda y wawr. Ni cheir neb mewn gor-frys wrth ddilyn eu goruchwyliaeth. Ni fydd eisau i'r aradwr haner rhedeg ar ol yr aradr a'r ôg—caiff ryddid i gerdded yn mlaen yn hamddenol, dan chwibanu, neu fygu myglys, fel y dewiso.
Wrth ddisgyn i fanylu, mae rhagoriaethau nacaol di-rîf yn ein cyfarch yn mhob cyfeiriad, er nad ellir crybwyll yma ond am ychydig o honynt. Nid iawn ynwyf fyddai esgeuluso nodi tymheredd yr hîn, ac mor rhydd ydyw oddiwrth eithafion. (Mynegaf y pethau hyn er hyfforddiant Cymry Americanaidd.) Nid yw y taranau a'r mellt mor ddychrynllyd yn Nghymru ag ydynt yn America. Nid yw llais y daran mor graslyd, na gwib-fflachiadau y mellt mor bicellog a thrywanol. Gyda golwg ar ruthr-dymestloedd a cyclones, ni cheir hwy o gwbl yn y wlad. Ymddengys i mi fod y nwyau trydanol yn Nghymru yn fwy gwareiddiedig a llednais na'r nwyau gyda ni. Y mae gwahaniaeth annrhaethol eto yn ngwlawogydd y ddwy wlad. Yn lle brâs-wlaw, cur-wlaw, trwm-wlaw, fel yma, ceir yno wlaw tyner, maethlon, a ddisgyna yn fân-wlith ysgafn, esmwyth, ar bawb a phob peth, ac yn neillduol ar adar mân a llysiau. Gall hyd yn nod y gwybed hafol eiddilaf, gario yn mlaen eu camp-chwareuon yn ddirwystr ar adeg