bwrw gwlaw, gan mor fwyn a thyner yr oruchwyliaeth. Mae y defnynau yma mor freision ac aml, nes y fflangellant ymaith holl eiddilod diniwaid, a pheri i bob aderyn ddianc i'r cysgodion. Byddaf yn ein gweled ni yma yn America yn gweithredu yn annoeth ryfeddol, wrth ffrystio ar excursions mawrion i weled y Niagara Falls, pan y mae Niagara Falls uwch, mwy a lletach, yn fynych wrth ein drysau yn y brâs-wlaw cawodog, ffrwd-lifol-a geidw draw bawb o fewn pellder moesgar. Myned ar excursions i weled y Niagara Falls yn wir!
A oes rhywun a amheua y pethau hyn? Os oes, y mae genyf dri chant a phump a thriugain o ddyddiau yn barod i dystio yn olynol i wirionedd yr hyn a ddywedais. A chredwyf pe bae y gecraeth amheugar yn haerllug, y byddai gwyneb a llygaid pob dydd erbyn deuddeg o'r gloch, yn gloewi gan sel ac eiddigedd dros wirionedd fy nhystiolaethau.
Nid yw y pontydd Cymreig yn cael eu diraddio trwy roi rhybudd pendant ar eu talcenau, na fydd rhyddid gyru drostynt yn gynt na cherdded, o dan ddirwy o ugain swllt, yr hyn o'i gyfieithu yw, byddwch dosturiol, da chwi, wrth y bont, canys y mae yn wanaidd iawn. I'r heolydd nid oes lle meddal na garw. Gall gwyr yr olwyn-feirch (bicycles), yn felltenawl gyflymu drostynt heb un tramgwydd. Y mae fod yr heolydd fel hyn, mewn cyflwr mor ragorol, wedi troi yn fanteisiol anghyffredin i gyfarfod angen teithio ar yr olwynfarch, sydd wedi dod mor boblogaidd trwy y wlad. Dywedai boneddwr wrthyf yn Casbach, D. C., fod ei fab ef yn myned yn aml i Gaerdydd ac yn ol mewn ychydig