amser, ar yr olwyn-farch. Yn y Gogledd, drachefn, y mae llyfnder y ffordd yn galluogi y brodyr ieuainc selog, i fyned o Sir Gaernarfon, i bellafoedd Sir Fon, ar yr olwyn-farch, i'r Cymanfaoedd a'r cyrddau mawrion, a gwneyd y daith yn nghynt na'r meirch-gerbydau.
Bu bron i mi anghofio crybwyll un peth dymunol yn Nghymru, yn ffafr pregethwr dyeithr, sef y dull y telir ef. Nid yw yn arferiad gwneyd casgliad cardotol yn niwedd yr oedfa, ond telir y pregethwr yn anrhydeddus o drysorfa yr eglwys.
Cyn tynu y benod hon i derfyniad, dymunwn wneyd crybwylliad byr eto ar fater cau y tafarnau ar y Sabboth.
Wrth gynllunio y mesur, a hawlio iddo lwybr rhydd trwy ddau dy y Senedd, dangosodd Cymru elfenau moesol a chrefyddol uwchraddol, a theilwng o honi ei hun. O hyn allan gall sefyll ar fanlawr y mesur hwn a dweyd wrth Loegr uchelfrydig, "Dring i fyny yma;” ac y mae ganddi hawl i gyfarch cenedloedd eraill mewn modd cyffelyb. Ond nid heb ympryd a gweddi y caed yr yspryd drwg hwn (yfed yn y tafarnau ar y Sabboth) allan o'r Dywysogaeth dêg. Y mae yr effeithiau yn fendithfawr. Mae llawer oeddynt yn tori eu hunain a chyllyll, ac yn malu ewyn ar y dydd sanctaidd, yn awr yn eu pwyll. Buddugoliaeth ogoneddus a enillwyd, ac un a sicrhaodd fuddugoliaethau moesol a chrefyddol pwysig eraill.